Gwêl ar y croesbren acw
Gwêl ar y croesbren chwerw

(Dioddefaint Crist a'i adgyfodiad)
1,2,3,(4).
Gwêl ar y croesbren acw,
  Gyfiawnder mawr y ne',
Doethineb, a thrugaredd,
  Yn gorwedd mewn un lle,
A chariad anfesurol,
  Yn awr i gyd yn un,
Fel afon fawr, lifeiriol
  Yn rhedeg at y dyn.

Cynefin iawn â dolur,
  A Gŵr gofidus fu,
Er dwyn tangnefedd rhyfedd
  Ac iechyd llawn i ni;
Fe ddygodd elu doluriau,
  A'n clwyfau, bob yr un,
Trwy rym tragwyddol gariad,
  O fewn ei gorph ei hun.

Ac yna adgyfododd
  Yn ogoneddus iawn;
Daeth bore teg a hyfryd,
  'N ol 'stormus ddu brydnawn;
Fe dorodd rym yr angau,
  Agorodd drysau'r bedd,
Palmantodd ffordd o'r ddaear
  Yn awr i ganol hedd.

Y mae if heddiw'n eistedd
  Ar ei orseddfainc fawr,
Yn Arglwydd ac yn Geidwad
  I weiniaid gwael y llawr;
Ei hun mae'n llywodraethu
  Y dyfnder mawr a'r nef,
A therfuyn eitha'r ddaear
  Sydd dan ei ofal ef.

         - - - - -
(Angeu y Messiah, a'i ogoneddus adgyfodiad. - Rhan II)
Gwel ar y croesbren chwerw,
  Gyfiawnder mawr y ne',
Doethineb a thragaredd
  Yn gorwedd mewo un lle;
A chariad anfesurol
  Yn awr i gyd yn un,
Fel afon fawr lifeiriol,
  Yn rhedeg at y dyn.

Ac yna yr adgyfododd,
  Yn ogoneddus iawn;
Daeth bore teg a hyfryd,
  'Nol tywyll ddu brydnawn:
Gorchfygodd angeu ei hunan,
   O'r carchar daeth yn rhydd,
Y gadwyn fawr a dorrodd,
  Ar wawr y trydydd dydd.

I fynu daeth o Edom,
  A'i wisg yn goch ei lliw;
Nis gall'sai un creadur,
  Mewn cadwyn gadw'm Duw;
Fe dorrodd rym yr angau,
  Fe agorodd ddrysau'r bedd,
Palmantodd ffordd o'r ddaear,
  Yn awr i ganol hedd.

A dyma waith fy Mhrïod,
  'Nawr ar ddeheulaw'r Tad,
Yw dwyn y'mlaen bob gronyn,
  O'm hiachawdwriaeth rad,
Da im' oedd iddo fyned,
  Myrdd o fendithion sy,
Fwy o'i fod yn y nefoedd,
  Nag yma gyda ni.
William Williams 1717-91
Theomemphus 1764

Tonau [7676D]:
Aberystwyth (<1829)
Caerllyngoed (Stephen Llwyd 1794-1854)
Gräfenberg (alaw Königsburg 1540)
Passion Chorale (Hans Leo Hassler 1564-1612)
Penlan (D Jenkins 1849-1915)
Salm 130 (Salmydd Ffrengig 1539)

gwelir:
  Fy Nhad fy addfwyn Iesu
  O enw ardderchocaf
  Yr Iesu adgyfododd

(The suffering of Christ and his resurrection)
 
Look on yonder cross of wood,
  The great righteousness of heaven,
Wisdom, and mercy,
  Lying in one place,
And immeasurable love,
  Now together as one,
Like a great torrential river
  Running to the man.

Acquainted well with grief,
  A sorrowful man he was,
In order to bring wonderful peace
  And full salvation to us;
He took our sorrows,
  And our diseases, every one,
Through the eternal force of love,
  Within his own body.

And then he rose again
  Very gloriously;
There came a fair and lovely morning,
  After a stormy, black afternoon;
The great chain did break,
  At the dawn of the third day,
He overcame death itself,
  From the prison he came free.

Up he came from Edom,
  With his clothing red in colour;
Nor could any creature
  In a chain keep my God;
He broke the force of death,
  He opened the doors of the grave,
He paved the way from the earth
  Now to the centre of peace.

               - - - - -
(The death of the Messiah, and his glorious resurrection. - Part 2)
See on the bitter cross of wood,
  The great righteousness of heaven,
Wisdom, and mercy,
  Lying in one place,
And immeasurable love,
  Now together as one,
Like a great torrential river
  Running to the man.

And then he rose again
  Very gloriously;
There came a fair and lovely morning,
  After a stormy, black afternoon;
He overcame death itself,
  From the prison he came free,
The great chain he broke,
  At the dawn of the third day.

Up he came from Edom,
  With his clothing red in colour;
Nor could any creature
  In a chain keep my God;
He broke the force of death,
  He opened the doors of the grave,
He paved the way from the earth
  Now to the centre of peace.

And here is the work of my Spouse,
  Now at the right hand of the Father,
Bringing onward every grain,
  Of my free salvation,
Good for me it was that he went,
  A myriad of blessings are,
More from his being in heaven,
  Than here with us.
tr. 2013,16 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~